Am CNPT
Rhoi siâp ar ein sir
Mae dros 142,000 o bobl yn galw Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gartref ac, fel eu cyngor, rydyn ni’n gweithio’n galed i ddarparu cannoedd o wasanaethau bob dydd.
Rydyn ni’n teimlo’n angerddol dros wneud bywyd yn well i’n preswylwyr a’n dymuniad yw creu lle ble mae pobl eisiau byw, gweithio a magu eu teuluoedd – ble mae gan bawb gyfle cyfartal i symud ymlaen mewn bywyd.
Boed hyn drwy ddarparu cefnogaeth i rieni, addysgu ein plant a’n pobl ifanc, sicrhau tai gweddus, fforddiadwy a chyflogaeth dda, neu drwy ddarparu cymorth i bobl sy’n wynebu caledi neu sydd angen cefnogaeth ychwanegol yn hwyrach mewn bywyd; mae gwaith y cyngor yn cyffwrdd â’r rhan fwyaf o agweddau ar fywydau pobl.
Yn ogystal â chynnal y gwasanaethau y mae eu hangen ar bobl o ddydd i ddydd, mae gan y cyngor rôl bwysig i’w chwarae hefyd wrth ddenu buddsoddiad fel bod Castell-nedd Port Talbot yn lle gwych i fyw, gweithio a threulio amser hamdden ynddo. Mae’r rôl hon o arwain y gymuned yn golygu ein bod ni’n gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau eraill ar bob lefel i sefyll dros bobl leol a darparu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Pwrpas, Gweledigaeth a Gwerthoedd
Cafodd pwrpas, gweledigaeth, gwerthoedd, perthynas ag eraill a’n gilydd, a blaenoriaethau’r cyngor eu hailosod a’u hadnewyddu gan ystyried:
- yr hyn sy’n bwysig i bobl leol, busnesau a’n gweithwyr
- yr effaith y gwyddom fod Covid-19 wedi’i gael ar ein cymunedau, ein heconomi leol a rhanddeiliaid ehangach
- y gwersi a ddysgwyd gennym o’n hymateb i’r pandemig ac o fannau eraill
- newidiadau disgwyliedig eraill yn ein hamgylchedd allanol
Ein Gweledigaeth
Mae ein Strategaeth Gorfforaethol 2025-2028 yn gosod y cyfeiriad ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer cymuned ffyniannus, decach a gwyrddach ac yn canolbwyntio ar bedwar amcan lles:
- rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
- adeiladu cymunedau ffyniannus a chynaliadwy
- amddiffyn ein hamgylchedd, diwylliant a threftadaeth, a
- creu mynediad at swyddi gwyrdd o ansawdd uchel
Mae’r strategaeth yn cyfosod adnoddau a chamau gweithredu ar draws y sefydliad, gan sicrhau ein bod ni’n cyflawni canlyniadau mesuradwy sy’n gwella bywydau pobl leol. Drwy gydweithio â thrigolion, busnesau a phartneriaid, ein nod yw creu dyfodol gwydn a bywiog i Gastell-nedd Port Talbot.
Ein Gwdwerthoedd
Cysylltiedig – mae’r hyn sy’n bwysig i chi yn bwysig i ni
Gofalgar – rydyn ni’n gofalu amdanoch chi, eich bywyd a dyfodol ein bwrdeistref sirol
Cydweithredol – rydyn ni’n gweithio gyda’n dinasyddion a’n partneriaid oherwydd gyda’n gilydd gallwn gyflawni mwy
Hyderus – rydyn ni’n optimistaidd ac yn hyderus am y dyfodol
Gyda’n gilydd, ein nod yw cyflawni canlyniadau pendant sy’n gwella llesiant ac yn creu dyfodol gwydn a bywiog i Gastell-nedd Port Talbot.
Gweld ein Strategaeth Gorfforaethol 2025 – 2028
Cyfansoddiad Gwleidyddol
Mae 60 o gynghorwyr yn cynrychioli 34 ward.
- Llafur Cymru: 26
- Grŵp Annibynnol: 19
- Grŵp Plaid Cymru: 11
- Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Annibynnol: 3
- Heb gysylltiad: 1
Mae Castell-nedd Port Talbot yn gyngor dan arweiniad clymblaid. Arweinydd y cyngor yw’r Cynghorydd Steve Hunt, Dirprwy Arweinydd y cyngor yw’r Cynghorydd Alun Llewelyn.
