Dewch yn Bennaeth Gwasanaethau Oedolion nesaf i ni
Croeso
Mae Castell-nedd Port Talbot yn gartref i dros 142,000 o breswylwyr; dyma ardal sy’n gyfoethog o ran treftadaeth, diwylliant, diwydiant a thechnoleg. Rydym yn lle ble mae pobl yn falch o fyw, dysgu, gweithio a magu eu teuluoedd – a lle mae gan y cyngor rôl hanfodol wrth helpu pobl i fyw’n dda, yn ddiogel ac yn annibynnol yn y cymunedau y maen nhw’n eu galw’n gartref.
Fel cyngor, rydyn ni’n uchelgeisiol dros ein lle a’n pobl. Mae cyfleoedd adfywio a buddsoddi mawr – gan gynnwys y Porthladd Rhydd Celtaidd, prosiectau adfywio ym Mhort Talbot, yng Ngwlad y Sgydau a Pharc Gwledig y Gnoll – yn helpu i lunio bwrdeistref sirol sydd wedi’i chysylltu’n well, sy’n well ar gyfer busnes ac yn lle gwell i fyw.
Ar yr un pryd, rydyn ni’n canolbwyntio ar gryfhau’r gwasanaethau sydd fwyaf pwysig i breswylwyr o ddydd i ddydd. Mae Gwasanaethau Oedolion yn ganolog i’r uchelgais honno.
Dyma gyfle sylweddol i arwain. Rydyn ni’n buddsoddi mewn Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol, gan gynyddu’r capasiti i ymateb i anghenion cymhleth, cefnogi gweithlu gofal cymdeithasol sefydlog a gweithio ar draws partneriaid tai, iechyd a chymuned i wella canlyniadau. Rydyn ni hefyd yn parhau i foderneiddio gwasanaethau er mwyn i bobl allu derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Bydd ein Pennaeth Gwasanaethau Oedolion newydd yn darparu’r weledigaeth, yr arweinyddiaeth broffesiynol a’r hyder i symud y gwaith hwn ymlaen. Gan weithio gydag aelodau etholedig, uwch swyddogion, staff, cydweithwyr iechyd, darparwyr, gofalwyr, cymunedau a phartneriaid rhanbarthol, byddwch yn ein helpu i adeiladu gwasanaethau cynaliadwy, sy’n canolbwyntio ar unigolion, sy’n amddiffyn y rhai mwyaf bregus, yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn galluogi mwy o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot i fyw’r bywydau maen nhw’n dymuno byw.
Os ydych chi’n arweinydd gofal cymdeithasol profiadol, sy’n cael ei arwain gan werthoedd, a all gyfuno bod â gafael weithredol gref ar bethau ag uchelgais strategol, gweithio mewn partneriaeth ac ymrwymiad i wella’n barhaus, byddem yn croesawu eich diddordeb mewn ymuno â Thîm Castell-nedd Port Talbot.
