Neath Port Talbot logo

Gweithio yn CNPT

Gyda’n gilydd, ni yw Tîm CNPT

Yng Nghastell-nedd Port Talbot rydyn ni’n gweithio fel un i ddarparu gwasanaethau gwerth am arian gwych i’n holl breswylwyr a busnesau. Gan weithio mewn partneriaeth â’n cymunedau, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl, nawr ac yn y dyfodol, ledled Castell-nedd Port Talbot – a’n pobl ein hunain fydd yn peri i hyn ddigwydd. Dyna pam rydyn ni wedi amlinellu ein gweledigaeth ‘Un Tîm, Un Cyngor’ ar gyfer rheoli a thyfu ein pobl.

Yma fe gewch chi wybod mwy am ein gweledigaeth ar gyfer CNPT, yr hyn rydyn ni’n ei gynnig i’n cymuned o weithwyr, a’n hymrwymiad i barhau i gefnogi eu datblygiad proffesiynol ac yn bwysicaf oll, eu llesiant.

Beth rydyn ni’n ei gynnig

Byw eich bywyd gorau

Rydyn ni’n credu mewn gwobrwyo a chydnabod ymdrechion a chyflawniadau ein cydweithwyr. Rydyn ni hefyd yn credu bod bywyd yn y gwaith a bywyd y tu fas i’r gwaith. Rydyn ni am i bawb fod yn iach ac yn hapus a chael yr adnoddau ariannol a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Dewiswch weithio i ni a chewch eich gwobrwyo ag ystod o fuddion a chefnogaeth ddeniadol i’ch helpu i fyw eich bywyd gorau.

Gwobrwyon a buddion

  • Cydbwysedd Bywyd a Gwaith – Mae gan y cyngor nifer o bolisïau i wella cyfleoedd cydbwysedd bywyd a gwaith, gan gynnwys Fframwaith Gweithio Hybrid.
  • Cymorth Adleoli – Nod Cynllun Adleoli Castell-nedd Port Talbot yw helpu gweithwyr newydd gyda’r treuliau y gallent eu hysgwyddo wrth symud cartref i ddechrau yn eu swydd newydd. Mae’r cynllun yn cynnig cyfraniad at gostau adleoli hyd at £8,000.
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr – Wedi’i ddarparu gan Vivup, mae’r llwyfan llesiant popeth-mewn-un hwn yn cynnig ystod eang o adnoddau / gwasanaethau iechyd meddwl, iechyd corfforol ac ariannol. Yn eu plith ceir Cymorth Cyfrinachol dros y Ffôn 24/7, cymorth cwnsela cyfrinachol a Chanolfan Llesiant Ar-lein ble gallwch gael mynediad at adnoddau a chwblhau asesiadau ffordd o fyw.
  • Cynllun Buddion Car – Mae hwn yn fudd-dal aberthu cyflog, a weithredir gan Tusker, ac mae’n darparu pecyn moduro cwbl gynhwysol sy’n galluogi gweithwyr i yrru car newydd sbon, wedi’i gynnal a’i gadw’n llawn ac wedi’i yswirio am hyd at 4 blynedd.
  • Pensiwn – Byddwch yn ymuno â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n gynllun pensiwn treth-gymeradwy, galwedigaethol a ddiffinnir. Mae eich cyfraniadau’n seiliedig ar eich enillion a gallwch ddewis o wahanol opsiynau incwm pan fyddwch chi’n ymddeol.
  • Yswiriant Bywyd – Fel aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), byddai grant marwolaeth cyfansymiol sy’n gyfwerth â thair gwaith eich cyflog pensiynadwy blynyddol tybiedig yn daladwy, waeth pa mor hir y buoch  chi’n aelod, pe baech chi’n marw yn ystod eich gwasanaeth.
  • Cynllun Seiclo i’r Gwaith – Byddwch chi’n cael y cyfle i arbed hyd at 40% ar feiciau ac offer beicio gyda’n darparwr Seiclo i’r Gwaith, gan eich galluogi i gadw’n iach ac yn egnïol ar eich taith i’r gwaith.
  • Aelodaeth Campfa – Byddwch chi’n mwynhau cyfraddau gostyngol ar gyfer aelodaeth yng nghyfleusterau Celtic Leisure ledled Castell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn cynnwys pob campfa, pwll nofio a dosbarth ffitrwydd.
  • Lwfans Car – Mae lwfans defnyddiwr achlysurol ar gael i staff sy’n defnyddio eu car eu hunain ar gyfer busnes y cyngor.
  • Cynigion Gostyngiad i Staff – Fel aelod o Grŵp Iechyd a Llesiant CNPT, mae digon o ostyngiadau a chynigion ar gael ledled Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys ar deithio, bwyta mas, siopa, moduro a gwasanaethau ariannol.

Read more

Prif Delerau ac Amodau Cyflogaeth
Cyflog: £89,565 – £98,298 y flwyddyn

Lleoliad: Canolfan Ddinesig Castell-nedd / Gweithio Hybrid

Amodau Cenedlaethol: Bydd y JNC ar gyfer Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol yn berthnasol i’r swydd hon, wedi’i hategu gan rai amodau gwasanaeth a bennir yn lleol.

Cyfyngiadau Gwleidyddol: Clustnodwyd y swydd hon fel un a gyfyngir yn wleidyddol o dan ddarpariaethau Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu polisïau ac arferion i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaethau, waeth beth fo rhyw, hil, lliw, neu darddiad ethnig cenedlaethol gweithwyr, eu hoedran, anabledd, statws priodasol, rhywioldeb, neu genedligrwydd, eu cyfrifoldeb dros rai sy’n ddibynnol, statws HIV neu AIDS, gweithgaredd undeb llafur, crefydd neu gred.

Amlder Talu: Byddwch yn cael eich talu bob mis calendr trwy drosglwyddiad credyd BACS i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

Pensiwn (Cynllun Buddion Diffiniedig): Byddwch yn gymwys i aros / dod yn aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae’r LGPS yn gynllun buddion diffiniedig ac mae’n un o’r cynlluniau pensiwn gorau sydd ar gael. Ceir rhagor o wybodaeth yma: www.swanseapensionfund.org.uk

Oriau Gwaith: Nid oes oriau gwaith sefydlog. Wythnos waith sylfaenol y cyngor yw 37 awr ond bydd rôl Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am oriau gwaith ychwanegol yn rheolaidd, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau, yn ôl yr angen. Bydd Fframwaith Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i’r swydd hon, gan alluogi deiliad y swydd i weithio’n hyblyg i wneud y gorau o amser gwaith a chydbwysedd bywyd a gwaith.

Gwyliau Blynyddol: Eich hawl i wyliau blynyddol fydd 34 diwrnod, yn ogystal ag 8 gŵyl banc, ynghyd ag un diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol adeg y Nadolig (ar amser a bennir gan y cyngor).

Tâl Salwch: Mae’r cyngor yn gweithredu cynllun tâl salwch galwedigaethol sy’n gyffredinol unol â’r JNC ar gyfer Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol.

Cyfnod Rhybudd: Y cyfnod rhybudd i’w gyflwyno gan ddeiliad y swydd yw chwe mis.

Lwfans Car ar gyfer Teithiau Busnes: Bydd lwfans car yn daladwy ar gyfer teithiau busnes yn unol â’r cyfraddau milltiroedd a gymeradwywyd gan HMRC.
Treuliau Eraill sy’n Gysylltiedig â Busnes: Bydd y cyngor yn ad-dalu treuliau rhesymol a dalwyd yn barod gan yr unigolyn.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Pobl yn Gyntaf

O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich derbyn a’ch gwerthfawrogi yn Nhîm CNPT. Ni waeth pwy ydych chi, o ble rydych chi’n dod neu beth rydych chi’n credu ynddo, rydyn ni am i chi ddod â’ch hunan yn gyfan i’r gwaith.

Mae angen i ni sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn, felly rydyn ni’n cymryd amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant o ddifrif calon er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau i’n preswylwyr.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth yw eu cefndir, eu hunaniaeth neu eu profiadau bywyd ac rydym wedi ymrwymo’n wirioneddol i gyfle cyfartal i bawb.

Ymunwch â ni ac fe ddewch o hyd i awyrgylch sy’n eich annog i fod yn chi eich hun, i leisio  barn a dylanwadu ar benderfyniadau trwy ddod â’ch persbectif unigryw i’r gwaith.

Ewch i’n gwefan i ddysgu mwy

Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot

Croesawgar, gonest a dramatig o Gymreig

Mae ein bwrdeistref sirol yn lle prydferth. Mae hefyd yn lle dramatig. O dywod euraidd Traeth Aberafan i’n cymoedd, ein coedwigoedd a’n sgydau, bendithiwyd Castell-nedd Port Talbot â chymaint o amrywiaeth o asedau naturiol. Yn ein lleoliad rhwng Dinas a Sir Abertawe i’r gorllewin a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’r dwyrain, rydym hefyd yn rhannu ffiniau â Sir Gaerfyrddin, Powys, Rhondda Cynon Taf a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Darllenwch fwy am Gastell-nedd Port Talbot: Calon Ddramatig Cymru.

O ran diwylliant a threftadaeth, mae gan y rhanbarth lawer i’w frolio hefyd. Dyma fan sy’n ysbrydoli creadigrwydd, gyda llu o ddoniau’n deillio o’r ardal leol. Mae’n gartref i liaws o grwpiau drama, cerddoriaeth a dawns. Ac o ran cynhyrchu actorion a diddanwyr enwog, mae’r gornel ddawnus hon o Gymru yn rhagori ar lwyfan y byd.

Adlewyrchir y llwyddiant hwnnw yn y celfyddydau yn ein treftadaeth ddiwydiannol. O lo a thun yn yr oes a fu i ddur a thechnoleg heddiw, mae Castell-nedd Port Talbot yn falch o’r hyn y mae’n ei gynhyrchu a sut mae’n cael ei barchu ledled y byd.

A hithau’n ardal sy’n enwog am fod yn gartref i gadarnleoedd olaf y diwydiant dur ym Mhrydain (ac yn falch o hynny), dyma rywle sy’n gwneud pethau.

Rydyn ni’n adeiladu ar ein hasedau a’n sgiliau hanesyddol a thraddodiadol er mwyn arloesi a datblygu technolegau newydd ym maes busnes a diwydiant.

Mae’r sylfaen weithgynhyrchu leol yn un o’r rhai mwyaf a phwysicaf yng Nghymru, ac mae’n parhau i ffynnu. Rhoddir ffocws cadarn ar adeiladu ar y cryfderau hyn a pharhau i ddatblygu diwydiannau sydd ar flaen y gad mewn ystod o sectorau.

Gwelodd y ddau ddegawd diwethaf newid anhygoel yn digwydd i’r ardal. O ganlyniad i ddatblygu lleoliadau busnes strategol a buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn seilwaith trafnidiaeth a chyfleusterau ymchwil a datblygu, bellach cefnogir twf y sectorau arloesi, technoleg lân a meddalwedd.

Mae chwaraeon hefyd yn nodwedd gref o fywyd cymunedol. Ceir yma amrywiaeth eang o glybiau chwaraeon lleol hyfyw ar draws yr ardal a does dim diwedd ar y cyfleoedd a geir i gyfuno ffordd o fyw egnïol â chariad at ein gweithgareddau awyr agored gwych.

Rydyn ni hefyd yn falch o’n hiaith Gymraeg a’i diwylliant ac rydyn ni wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo’r ddau yn rhagweithiol.

Wrth edrych ymlaen, byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ein rhaglenni newid strategol a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni.