Dewch yn Cyfarwyddwr Strategol Lle ac Economi nesaf i ni
Croeso
Mae Castell-nedd Port Talbot yn gartref i dros 142,000 o breswylwyr; dyma ardal gyfoethog o ran treftadaeth, diwylliant, diwydiant ac arloesi. Mae ein lle ni’n fan ble ceir cymunedau balch, cyfoeth naturiol eithriadol a photensial economaidd enfawr, ble mae pobl yn falch o fyw, dysgu, gweithio a magu’u teuluoedd ynddo.
Fel cyngor, rydyn ni’n uchelgeisiol ar gyfer ein lle a’n pobl, Rydyn ni’n helpu i roi ffurf ar ddyfodol y fwrdeistref sirol drwy gyfrwng cyfleoedd adfywio a buddsoddi mawr, gan gynnwys y Porthladd Rhydd Celtaidd, trawsnewid Port Talbot yn dilyn pontio diwydiannol, rhaglenni tai ac adfywio o bwys, a buddsoddiadau yn ein hasedau twristiaeth, hamdden, treftadaeth a diwylliant. Gyda’i gilydd mae’r cyfleoedd hyn yn cyflwyno llwyfan unigryw ar gyfer gyrru ffyniant hirdymor, denu buddsoddiad a chreu twf cynhwysol ar gyfer ein cymunedau.
Dyma ennyd gyffrous ar ein taith, ac fel rhan o’n hymrwymiad i gryfhau gallu arweinyddol a darparu ein gweledigaeth hirdymor, rydyn ni wedi creu rôl newydd ar gyfer Cyfarwyddwr Strategol Lle ac Economi. Mae hyn yn llawer mwy na phenodiad i swydd arweinyddiaeth uwch. Mae’n gyfle prin i ddylanwadu ar gyfeiriad Castell-nedd Port Talbot i’r dyfodol a gadael gwaddol parhaus am genedlaethau i ddod.
Fel aelod o’n Tîm Arwain Strategol, gan ateb yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr, byddwch chi’n arwain portffolio eang a dylanwadol syn cwmpasu Tai a Chymunedau, Eiddo ac Adfywio, a Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant. Byddwch chi’n chwarae rhan allweddol mewn datblygu a darparu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer lle, gan sicrhau fod adfywio, tai, twf economaidd, llesiant cymunedol a datblygiad diwylliannol oll yn alinio er mwyn creu’r manteision mwyaf ar gyfer preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd,
Gan weithio’n agos ag aelodau etholedig, llywodraeth, buddsoddwyr, busnesau, partneriaid rhanbarthol a chymunedau lleol, byddwch chi’n helpu i sicrhau buddsoddiad, rhoi ffurf ar bartneriaethau strategol a hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot ar y llwyfan rhanbarthol a chenedlaethol, Byddwch chi’n allweddol o ran sicrhau fod y cyfleoedd sydd o’n blaenau’n trosi i fod yn welliannau diriaethol i fywydau pobl, cymunedau cryfach ac economi leol fwy gwydn.
Rydyn ni’n chwilio am arweinydd eithriadol ac ysbrydoledig sydd â’r weledigaeth, yr hygrededd a’r penderfyniad i lywio llwybr cymhleth, adeiladu partneriaethau, a darparu canlyniadau trawsnewidiol. Yn fwyaf pwysig, byddwch chi’n rhannu ein huchelgais ar gyfer Castell-nedd Port Talbot ac yn cydnabod y cyfle eithriadol sy’n dod yn sgil y rôl hon.
Os ydych chi wedi eich ysgogi gan y cyfle i roi ffurf ar ddyfodol lle, gyrru twf cynhwysol a chreu gwaddol parhaus i’n cymunedau, byddem wrth ein bodd o glywed gennych chi a’ch croesawu i Dîm CNPT.
