Ymgeisio Nawr- Cymraeg
Dod yn Brif Weithredwr newydd i ni
Dyma Gastell-nedd Port Talbot – lle o wrthgyferbyniad, creadigrwydd a chymuned.
Mae ein rhan hardd o Dde Cymru wedi’i lleoli rhwng dinasoedd Abertawe a Chaerdydd, yn agos at Benrhyn Gŵyr a Bannau Brycheiniog.
Rydym yn gwasanaethu 140,000 o drigolion mewn ardal ffyniannus sy’n llawn treftadaeth, diwylliant, diwydiant a thechnoleg. Rydym yn lle o wrthgyferbyniad – gyda phoblogaeth drefol a gwledig amrywiol, yn falch o’n hanes ond hefyd â’n golygon yn gadarn ar y dyfodol. Mae Castell-nedd Port Talbot yn lle y mae pobl wir yn falch o fyw, dysgu, gweithio a magu eu teuluoedd ynddo.
Mae hwn yn gyfle a fydd yn diffinio gyrfa; rôl a fydd yn cael effaith a dylanwad sylweddol. Rydym yn gyngor sefydlog sy’n perfformio’n dda o ran darparu gwasanaethau a llywodraethu corfforaethol iach. Ond mae gennym hefyd weledigaeth glir, ac rydym yn uchelgeisiol ar gyfer dyfodol ein hardal, gan ymdrin â diddordeb sylweddol mewn buddsoddi. Bydd gennych gyfle i adeiladu ar brosiectau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, megis Cyrchfan Wildfox, GCRE a’r Porthladd Rhydd Celtaidd; gan ddyrchafu ein lle, bod yn gennad i ni, a chynrychioli Castell-nedd Port Talbot ledled Cymru a’r DU gyfan, ac yn rhyngwladol.
Mae cydberthnasau â Swyddogion ac Aelodau Etholedig yn hollbwysig yma; mae hwn yn gyngor sy’n gwasanaethu ei drigolion â brwdfrydedd y bydd yn anodd dod o hyd iddo yn unrhyw le arall. Rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol a fydd yn gallu cynnig y craffter, yr uchelgais, y sgiliau llywodraethu a’r creadigrwydd i yrru ein sefydliad yn ei flaen. Ein pobl yw ein hased mwyaf, ac ni fydd ein Prif Weithredwr yn eithriad yn hyn o beth. Byddwn yn disgwyl i chi ffurfio cydberthnasau cadarn a llawn ymddiriedaeth â phartneriaid, Gweinidogion, arweinwyr cymunedol a thrigolion, gan sefydlu cyfeiriad clir a hyder proffesiynol ymhlith ein gweithlu rhagorol.
Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i ymuno â ni ac arddangos eich dawn, eich tosturi a’ch penderfynoldeb i ddarparu gwasanaethau ardderchog i gymunedau Castell-nedd Port Talbot. Os ydych chi’n gweld eich hun fel ein Prif Weithredwr nesaf, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
I weld y disgrifiad o’r swydd a manyleb y person, sgroliwch i waelod y dudalen, ticiwch i gytuno i’r polisi preifatrwydd, wedyn cliciwch ‘Continue to full details’.
Sut i Wneud Cais
- Cyflwynwch eich CV ynghyd â Datganiad Ategol sy’n cyfeirio at y meini prawf ym manyleb y person, gan ddangos tystiolaeth o’r ffyrdd rydych yn bodloni’r meini prawf.
- Esboniwch unrhyw fylchau mewn cyflogaeth neu addysg.
- Byddwch yn barod i roi enwau, swyddi, sefydliadau a manylion cyswllt ar gyfer dau ganolwr; dylech sicrhau mai eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar yw un ohonynt. Byddwn yn cysylltu â chanolwyr yr ymgeiswyr a fydd yn symud ymlaen i’r camau terfynol. Byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd cyn cysylltu â chanolwyr.
- Rhowch wybod i ni am unrhyw anhawster a all fod gennych o ran yr amserlen ddangosol.
- Sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gywir cyn i chi gyflwyno eich cais.
Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, caiff cadarnhad wedi’i awtomeiddio ei anfon atoch drwy e-bost. Os na fyddwch wedi cael cadarnhad, e-bostiwch contactus@gatenbysanderson.com
Pwyntiau cyswllt
Yr ymgynghorwyr canlynol sy’n rheoli’r rôl hon a byddant yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau na chânt eu hateb ym manyleb y person ar y dudalen we nesaf.
Pwynt cyswllt:
Gary Evans
Rhif ffôn:
07809 195 593
Pwynt cyswllt:
Rebecca Hopkin
Rhif ffôn:
07827 098 173
Pwynt cyswllt:
Rachel Salvia
Rhif ffôn:
07393 013 067
Head of Adult Services
Share this role
- Employer:
- Neath Port Talbot County Borough Council
- Location:
- Neath Port Talbot
- Salary:
- £89,565 - £98,298
- Closing date:
- Sunday 4 October 2026 - 11.59pm
- Job Ref:
- GSe135572
Description
This is Neath Port Talbot - a place of contrast, creativity and community.
Located between Swansea and Cardiff, our county borough combines stunning coastline, valleys and waterfalls with proud industrial heritage, thriving communities and growing economic opportunity. Home to around 142,000 residents, we are ambitious for our future and committed to delivering high quality services that improve lives and strengthen communities.
Following the retirement of our longstanding Head of Adult Services, a rare and exciting opportunity has arisen to join our senior leadership team and help shape the future of Adult Social Care in Neath Port Talbot.
As a member of the Council's Corporate Leadership Team, you will provide strategic leadership across a diverse portfolio of services, including operational adult social care, prevention and early intervention, mental health, business and performance functions and services with a combined budget of over £120 million.
This is a role for a visible, resilient and values driven leader. Adult Services faces increasing demand and financial pressures and we are looking for someone who can build on strong foundations whilst promoting a culture of continuous improvement. You will help create a collaborative, outward looking service that works with a range of stakeholders to deliver the best possible outcomes for adults and carers.
We are seeking an accomplished senior leader with substantial experience in Adult Social Care or a comparable statutory setting. Whilst a social work qualification is not essential, you will be familiar with social work values. Alongside this you will demonstrate a genuine commitment to adult services, have strong partnership skills, be politically aware, have sound judgement and the ability to lead innovation and transformation in a complex environment.
Dyma Gastell-nedd Port Talbot – lle gwrthgyferbyniol, creadigol a chymunedol.
Mae ein bwrdeistref sirol ,a leolir rhwng Abertawe a Chaerdydd, yn cyfuno arfordir, cymoedd a rhaeadrau trawiadol â threftadaeth ddiwydiannol falch, cymunedau ffyniannus a chyfleoedd economaidd cynyddol. Rydyn ni'n gartref i tua 142,000 o drigolion, ac yn uchelgeisiol ar gyfer ein dyfodol gan ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gwella bywydau ac yn cryfhau cymunedau.
Yn dilyn ymddeoliad ein Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion hirsefydlog, cododd cyfle prin a chyffrous i ymuno â'n uwch dîm arwain er mwyn helpu i lunio dyfodol Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Fel aelod o Dîm Arwain Corfforaethol y Cyngor, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws portffolio amrywiol o wasanaethau, gan gynnwys gofal cymdeithasol gweithredol i oedolion, atal ac ymyrraeth gynnar, iechyd meddwl, swyddogaethau busnes a pherfformiad a gwasanaethau, gyda chyllideb gyfunol o dros £120 miliwn.
Mae hon yn rôl ar gyfer arweinydd gweladwy, gwydn sy'n cael ei yrru gan werthoedd. Mae Gwasanaethau i Oedolion yn wynebu galw cynyddol a phwysau ariannol, ac rydym yn chwilio am rywun a all adeiladu ar seiliau cryf wrth hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus. Byddwch yn helpu i greu gwasanaeth cydweithredol, eangfrydig sy’n gweithio gydag ystod o randdeiliaid i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i oedolion a gofalwyr.
Rydyn ni'n chwilio am uwch arweinydd medrus gyda phrofiad sylweddol mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion neu leoliad statudol tebyg. Er nad yw 'n hanfodol meddu ar gymhwyster gwaith cymdeithasol, byddwch yn gyfarwydd â gwerthoedd gwaith cymdeithasol. Ochr yn ochr â hyn byddwch yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i wasanaethau i oedolion, bydd gennych sgiliau partneriaeth cryf, byddwch yn wleidyddol ymwybodol, bydd gennych farn gadarn a'r gallu i arwain arloesedd a thrawsnewid mewn amgylchedd cymhleth.
To view the job description and person specification, please scroll to the bottom of the page, tick to agree to the privacy policy, then click 'Continue to full details'.
How to Apply
- Please submit your CV along with a Supporting Statement addressing the person specification criteria, evidencing how you meet the criteria.
- Detail any employment or education gaps.
- Be ready to provide the names, positions, organisations and contact details for two referees; one should be your current or most recent employer. Referees will be contacted for those proceeding to final stages. We will always gain your permission before we contact referees.
- Let us know any difficulty you may have with the indicative timetable.
- Check that your contact details are correct before you submit.
Once you have submitted your application, you will receive an automated email confirmation. If you do not receive, please email contactus@gatenbysanderson.com
Contact
The following consultants are managing this role and will be happy to answer any questions that are not covered in the person specification on the next webpage.
- Contact:
- Gary Evans
- Telephone:
- 07809 195 593
- Contact:
- Alex Hayes
- Telephone:
- 07586 715 843
